Teyrnged i Nain

Mae’n rhaid i mi ymddiheuro, mae ‘na 2 fis ers i mi ysgrifennu blog ddwytha’, ac mae yna gymaint wedi digwydd ers hynny. Mae pawb sydd yn fy adnabod yn gwybod fy mod yn berson pryderus iawn, sydd hefo tuedd i gorfeddwl popeth. Felly mae hynny a galaru dros golli Nain ddechrau mis Mai wedi golygu fy mod wedi ‘colli’ fy hun braidd, ac wedi stopio gwneud pethau roeddwn yn angerddol amdanynt – ysgrifennu’r blog yn un, a pharhau i bostio ar instagram yn un arall. Er dweud hynny, mae pethau cyffrous wedi digwydd yn ystod y misoedd dwytha’ hefyd, ond na’i rannu’r rheini hefo chi eto.

Dwi’n teimlo fy mod yn gallu agor allan yn dda wrth ysgrifennu yma, a chael pob dim allan o fy mhen ac i lawr ar bapur (wel… gwefan), a heddiw felly, dwi am sôn am Nain…

Nain

Nain bach annwyl, Nain bach fi, fi bia Nain a Nain bia fi. Roedd y dywediad yma wedi ei ysgrifennu ar addurn wal gan Nain, ac ar ei chwpan panad. Roedd yn ddywediad roedd Nain yn ei ailadrodd allan i fi pob tro roeddwn yn mynd i’w gweld, a hynny hefo rhyw diwn benodol. Dyna yw un o’r atgofion sydd yn chwarae yn fy mhen fwyaf ar hyn o bryd, clywed Nain yn dweud hynny. Roedd y ffordd roedd hi’n ei ddweud o mor hwyl.. a ciwt mewn ffordd, a dwi wastad yn gwenu pan dwi’n clywed hi’n ei ddweud o.

Jean odd Nain, roedd hi’n 78 oed ac yn wreiddiol o Sarn Mellteyrn ym Mhen Llyn. Priododd fy Nhaid ym mis Hydref 1965 yn gwisgo ‘white brocade ballerina-length dress and a coronet head-dress’, a waw del iawn oedd hi hefyd. (Disgrifiad yn y papurau newydd nol yn 1965 oedd hwnna haha) Aeth y ddau i drafeilio Iwerddon ar eu mis mel – ac mae gwerth clywed Taid yn sôn am yr hanesion. Lyfli hefyd yw clywed Taid yn sôn am sut roedd yn beicio i’w waith drwy’r stryd fawr ym Mhwllheli yn y boreau, ac roedd Nain yn sefyll tu allan i Polecoffs lle’r oedd yn gweithio. Roedd hi yno pob bore yr oedd yn pasio… yn aros amdano fo medda fo haha… a dyna sut ddechreuodd eu perthynas, hefo Nain yn oddeutu 18 oed.. cyn priodi pan yr oedd yn 21. Nes i wirioni yn clywed hyn i gyd. Profodd Nain lot trwy ei bywyd wedyn, ac fe gyfrannodd hynny at y math o berson yr oedd hi – person cryf a phenderfynol. Roedd Nain yn wariar, ac mae gen i gymaint o edmygedd ohoni – dwi’n gobeithio un diwrnod y byddai’r un mor gryf â hi, ac yn gwynebu heriau hefo’r un cryfder a hi.

Ers 6 mlynedd, roedd Nain wedi bod yn brwydro COPD – ‘chronic obstructive pulmonary disease’ – cymysgedd o gyflyrau ar yr ysgyfaint a oedd yn effeithio ar ei ysgyfaint. Roedd hyn yn golygu yr oedd yn gwisgo tiwbiau ocsigen drwy’r adeg i’w helpu hefo’i anadlu. Yn y dechrau, roedd hi dal yn Nain bach fi, dal yn gallu cerdded i lefydd yn tynnu rhyw beiriant bach ocsigen y tu ôl iddi, yn dal yn mynd allan am swperau, dal yn dod acw. Yn raddol aeth hynny yn anoddach iddi ac roedd mewn cadair olwyn gyda Taid yn dod a hi i lefydd. Erbyn y diwedd, doedd Nain methu gadael y tŷ.. ac yna prin yn gadael ei gwely. Dyna oedd yn anodd. Dros y flwyddyn dwytha’ hefo Covid o gwmpas, roeddwn i a phawb yn fy nheulu yn hynod bryderus am fynd i’w gweld, gan wybod fod Covid yn firws a oedd yn effeithio ysgyfaint pobl… doedd dim un ohonom eisiau risgio cario rhywbeth i Nain a hithau yn cael trafferth anadlu fel oedd hi! Roedd hyn felly yn golygu ein bod wedi gweld llai ohoni dros y flwyddyn dwytha’, ac mae meddwl yn ôl am hynny yn anodd iawn – dylwn i fod wedi gweld hi fwy yn gwybod bod ei chyflwr yn mynd yn waeth… ond roedd Covid yn ddrwg, neb yn gwybod lot amdano… doeddwn methu risgio cario rhywbeth yna, a hefyd gan fy mod yn gweithio mewn ysgol!

Mae hynny wedi chwarae ar fy mhen i lot ers ei cholli… y dylwn i wedi bod yn ei gweld hi’n amlach, ac ella dyna pam fy mod yn mynd fyny i’r fynwent mor aml, neu fod hynny yn rhyw fath o ffordd dwi’n ymdopi hefo ei cholli hi.

Disgynodd Nain ychydig wythnosau ynghynt a thorri ei asennau – dyma’r newyddion gwaetha posib.. a be oedd waethaf, gwybod ei bod ar ben ei hun yn yr ysbyty a neb yn cael mynd mewn ac allan i’w gweld. Roedd hyn wedyn yn chwarae ar fy meddwl i lot, ac yn cael effaith ar fy mywyd o ddydd i ddydd. Nes i daflu fy hun mewn i gychwyn rhedeg eto, Couch to 5K, a nes i wir mwynhau mynd a chyrraedd wythnos 5!

Nath colli Nain ddim hitio fi’n iawn am wythnosau dwi ddim meddwl… y penwythnos cyntaf ddoth a fy chwaer-yng-nghyfraith i lawr hefo fy 2 nai bach, roedd hyn yn ‘ddistraction’ da i ni gyd ar y pryd. Mewn cyfnod lle oedd pawb yn gofyn ‘ti’n ok? ti’n iawn? allai neud wbath?’ a pobl yn rhannu straeon a holi amdani, roedd 2 bachgen bach eisiau sylw a chwarae hefo bybls, eisiau canu ‘adeiladu tŷ bach’ neu chwarae hefo lego. Do, dwi wedi colli pobl agos i fi o’r blaen, ond does ddim un wedi fy nharo gymaint a wnaeth colli Nain, a sylweddolais hynny yn y cnebrwn.

Hogan fach Nain dwi wedi bod erioed – yn aml iawn roeddwn i a fy mrawd yn cael ein gwarchod yn tŷ Nain a Taid, ac maent wedi chwarae rhan fawr yn ein magu. Dwi byth am anghofio rhedeg rownd y tŷ yn heels bach maint 4 Nain, yn dwyn ei sgarff polca dot du a gwyn pob tro er mwyn gallu ei hoglau hi (dwi hefo’r sgarff yna wan), Nain yn trio fy nysgu drosodd a drosodd sut i wau (dwi dal ddim yn gallu) neu fy nysgu sut i chwarae’r piano. Trit cysgu yn nhŷ Nain oedd cael cant a mil o dost yn y bora – ond dim tost arferol… torth crust away wedi ei goginio dan gril hefo llwyyyyyth o fenyn iawn ar ei ben o. Roedd Nain yn un a oedd yn casglu bathodynnau elusen.. ‘da chi’n gwybod y rhieni sydd yn cael eu gwerthu wrth y til mewn siopau… o ia. Roedd gan Nain canoedd ohonynt, i gyd wedi’w pinio ar ddarnau o ddefnydd yn y llofft gefn, ac roeddwn wasdad yn mynd fyny yno i’w cyfri drosodd a drosodd (a coeliwch chi fi… mae ‘na LWYTH). Cofio ni’n dwy yn trio cerdded yr un pryd a’n gilydd wrth fynd rownd y farchnad, yn pigo pob darn 1 ceiniog oddi ar y llawr a phasio fo i’r llall am lwc dda ac yn trio osgoi cerdded ar graciau yn y llawr. Cofio fi’n eistedd ar step yn gegin yn bwyta beans oer tra odd Nain yn neud cinio, y ddwy ohonom yn tyfu blodau haul pob haf pan oeddwn i’n fach a chael llun o’i flaen o (cymryd fod hyn yn chwarae rhan pam mai blodau haul yw fy hoff flodyn)… a cofio ffraeo hefo Mam pob tro roedd hi’n gwneud cinio Sul gan ei fod yn blasu dim byd tebyg i un Nain. Dyma beth dwi am gofio. Dyma dwi eisiau cofio. Dwi ddim eisiau cofio hi’n cael trafferth i anadlu, na chwaith ei chofio hi yn yr ysbyty, ond cofio’r pethau da, doniol.

Nain oedd cwin y gwin pinc… y ‘Rose Queen’, y life and soul of the party. Dyna dwi’n trio ei gofio wrth symud ‘mlaen… i drio bod fel Nain… Ond mae o’n hollol afiach teimlo yn isal. Mae galar yn boenus. Dwi’n deall beth mae pobl yn ei feddwl wrth ddweud bod galar yn gallu dy hitio fel ton allan o nunlla – ac yndi mae o! Dwi’n gallu bod yn iawn un munud, ac yna dwi’n clywed rhywbeth, ogleuo rhywbeth neu gweld rhywbeth sydd yn fy atgoffa o Nain a dwi’n beichio crio mewn dim, a methu cael fy hun allan ohono. Dwi’n trio meddwl, ‘Na Lois fysa Nain ddim isho gweld chdi fel hyn’, ond wedyn dwi’n meddwl… na, mae’n iawn i beidio bod yn oce. Mae’n iawn i fod felma – dwi’n galaru! Dwi wedi colli rhywun oedd yn rhan fawr o fy mywyd ac mae’n iawn felly fy mod yn teimlo fel hyn. Dwi’n teimlo dros Taid hefyd, ac yn gweld sut mae o’n effeithio fo ac mae hynny mor anodd. Dwi wedi cychwyn mynd yn ôl i gwnsela – mae hyn wedi fy helpu sawl tro o’r blaen, a does gen i ddim cywilydd dweud! Dywedodd ffrind wrthaf o’r blaen y dylem oll gael cwnsela rhyw dro – mae o fel mynd i’r gym ond i’r ymennydd, ac mae o mor wir. Mae o’n fy helpu i roi pethau mewn persbectif, i gael barn / siarad hefo rhywun sy’n hollol wrthrychol ac i feddwl am y camau nesaf ymlaen.

Dim ond yn ddiweddar dwi wedi cychwyn coelio mewn arwyddion hefyd – fel y robin goch a’r bluen wen. Maent yn dweud os ydych yn gweld robin goch neu bluen wen o’ch cwmpas, fod rhywun rydych yn ei garu yn agos. I fod yn hollol onest, doeddwn i erioed wedi coelio hyn, tan flwyddyn dwytha’ pan y gwelais rhywun arbennig i fi yn cael pluen wen yn ymddangos mewn cyfnod hollol anodd… a dyna ddigwyddodd i fi. Ar fore hollol emosiynol, es i allan i redeg yn y gobaith y buasai yn gwneud i mi deimlo’n well. Fel yr oeddwn ar fin cychwyn, neidiodd robin goch allan o fy mlaen i, ac yna hedfan a neidio wrth fy ochr am ychydig. Dechreuais grio (roeddwn yn cael bore emosiynol fel oedd hi!!) ond roedd rhywbeth yn dweud wrthaf na hi oedd yno, hi oedd yn trio dweud wrthaf fod bob dim am fynd i fod yn iawn – nes i barhau i redeg a gwella fy amser wrth wneud hynny. Fe ddigwyddodd sefyllfa tebyg iawn yn y capel wedyn, roeddem oll yn sefyll yno fel teulu, a disgynodd pluen wen perffaith o fy mlaen. Rhedais i’w nol a’i roi yn fy mhoced – roedd hynny yn fod i feddwl rhywbeth, oedd ddim? Efallai fod o’n anodd deall weithiau, sut mae hynny’n digwydd, ond i fi, ar ddiwrnod hollol emosiynol lle roeddwn yn teimlo’n ofnadwy, i hynny ddigwydd mae’n rhaid ei fod yn meddwl rhywbeth?

Lle dwi’n trio mynd hefo hyn i gyd? Weithiau mae o’n helpu i gael o i gyd allan. Dwi yn fama yn rhannu fy mhrofiad i o alar, ond hefyd yn ysgrifennu popeth lawr oherwydd ei fod yn un ffordd dwi’n trio ymdopi hefo’r peth. Mae siarad yn fy helpu i lot, ac mae pawb sydd o fy nghwmpas yn gwybod bellach fy mod wedi dysgu’r pwysigrwydd o siarad ag agor allan. Dwi’n trio peidio dal ddim byd i mewn ddim mwy, trio peidio cadw bob dim i mewn a gobeithio bydd bob dim yn oce. Na, dwi’n siarad. Os dwi ddim yn teimlo’n grêt dwi’n dweud wrth rywun, yn agor allan i fy ffrindiau neu fy nheulu. Dwi yma ryw dro os oes rhywun eisiau siarad hefyd – mae croeso i unrhyw un ohonoch yrru neges i fi ar instagram neu facebook ac mi fyddai yna i wrando arnoch.

Cofiwch, mae’n oce i beidio bod yn oce weithiau, a peidiwch a rhoi gormod o bwysau ar eich hunain am beidio bod yn oce – dwi wedi dysgu hynny bellach. Methu chi Nain x

(ia, hwn ydi’r sgarf polca dot du a gwyn, sydd yn ogleuo fel Nain, sef perfume Elizabeth Arden Red Door… mae o mor comforting, ond weithiau mae’r ogla yn gallu fy nhaflu i)

Roeddwn i wedi bwriadu rhannu lot mwy hefo chi heddiw, ond dwi ddim eisiau gorlwytho chi hefo gwybodaeth a llwyth o waith darllen.. felly na’i adael o yna am heddiw. Tro nesaf, mi na’i rannu mwy i chi am yr ap, am Arwyddo, a sut mae popeth yn mynd. Am heddiw, na’i adael o fod yn flog am Nain, rhywun sydd wedi fy helpu gymaint dros y blynyddoedd, rhywun oedd yn ‘No.1 fan’ i fi, a rhywun sy’n haeddu cael post amdani.

Yn y blog nesaf, mi wnâi rannu’r diweddaraf hefo chi, beth sydd yn mynd ymlaen hefo’r ap a fy ngobeithion ar gyfer y dyfodol! Ond am heddiw, dyna beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen hefo fi, a dyma pwy oedd Nain bach fi. Instagram a facebook wastad yna i rywun sydd eisiau cysylltu hefo fi – wastad yma am sgwrs.

Cerdded 25 milltir?

Cerdded 25 milltir?

Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod

Pob blwyddyn, mae’r UK Council on Deafness yn cyd-weithio gyda sefydliadau ac elusennau eraill yn y maes byddardod i gydlynu wythnos ymwybyddiaeth byddardod. Wythnos i godi ymwybyddiaeth i anghenion 1 o bob 6 unigolion byddar neu drwm eu clyw yn y DU yw’r wythnos yma. Ei nod yw hyrwyddo agweddau cadarnhaol byddardod, i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac i godi ymwybyddiaeth o’r ystod enfawr o sefydliadau sydd yn cefnogi ffrindiau a theuluoedd pobl sydd yn fyddar. Ffocws yr wythnos flwyddyn yma yw ‘Coming Through it Together’ – sydd yn golygu eu bod yn cyd-weithio er mwyn codi ymwybyddiaeth er mwyn sicrhau fod pawb yn ymgyrchu gyda’i gilydd gan ffocysu ar bositifrwydd.

Maent hefyd hefo’r nod o wella mynediad tuag at addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a chyflogaeth. Maen nhw’n anelu i sicrhau fod gan bobl y wybodaeth hygyrch y maent ei angen a hefyd yn ceisio hysbysu’r Llywodraeth a’r cyhoedd am fyddardod a cholled clyw. Mae ceisio gwella ansawdd gwasanaethau ar gyfer pobl fyddar yn nod arall ganddynt hefyd, ac i barhau i ddangos pwysigrwydd cydraddoldeb, hygyrchedd a chydnabyddiaeth.

Mae’r UK Council on Deafness yn disgrifio’u hunain fel ‘national umbrella organisation for charities and professional bodies working in the field of deafness’.

Flwyddyn yma, o ganlyniad i’r pandemic a’r angen i fwy o bobl weithio o adref, mae anghenion pobl sydd yn fyddar neu hefo colled clyw wedi newid ychydig, ac felly mae’n bwysig fod yr anghenion yna yn cael eu deall a bod newidiadau angenrheidiol i wasanaethau wedi ei gwneud i gyfarfod yr anghenion.

Mae’r wythnos arbennig yma hefyd yn gyfle i hyrwyddo BSL – iaith sydd yn cael ei ddefnyddio gan dros 24,000 o bobl yn y DU.

Posteri gan UK Council on Deafness yw’r rhain, sydd yn helpu i gydlynu’r wythnos yma pob blwyddyn. Maent eisiau dathlu’r holl fudiadau ac elusennau ar draws y DU sydd yn helpu pobl fyddar, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Beth am i chi ymarfer eich arwyddo wythnos yma – os nad ydych wedi dysgu’r wyddor eto, rhowch sialens i chi’ch hun i’w ddysgu a gyrrwch fideo draw drwy DM ohonoch yn sillafu eich enw ar instagram! Mi fydda’i yn rhannu mwy o wybodaeth a fideos diddorol ar fy nhudalen instagram drwy gydol yr wythnos felly cadwch lygaid allan!

Sut felly mae bod yn ‘Deaf Aware’?

Dyma boster defnyddiol gan y UK Council on Deafness sydd yn rhoi ychydig o ‘tips’ defnyddiol a pethau hynod bwysig i gofio wrth gyfathrebu gyda pobl sy’n fyddar neu hefo colled clyw.

I ehangu ar bwynt rhif 3 – dwi wedi gweld hyn yn digwydd ac mae o mor dorcalonnus – rhywun wedi dweud rhywbeth mewn criw o ffrindiau, ond tydi un unigolyn sy’n fyddar heb glywed yn iawn ac yn gofyn iddynt ailadrodd, ond yr ymateb y cafodd oedd ‘o ddim ots!’ Yndi.. mae o ots!!!! Peidiwch byth a gwneud i rywun deimlo fel nad oes gennych amynedd hefo nhw, neu fod beth rydych yn ei ddweud ddim yn bwysig iddyn nhw – sydd wedyn yn dod a fi at bwynt rhif 4… peidiwch â rhoi’r ffidl yn y to! Os tydi rhywun ddim yn eich deall, peidiwch â rhoi’r gorau iddi, parhewch i geisio egluro neu i egluro mewn ffordd wahanol.

Adnoddau defnyddiol

Dyma restr o gwahanol bethau gallwch ei wneud wythnos yma boed mewn ysgol, adref neu mewn clybiau.

  • Twinkl – mae gan twinkl llwyth o adnoddau addysgiadol gwahanol, ac felly maent wedi creu pecyn arbennig ar gyfer yr wythnos yma sydd llawn adnoddau a ffeithiau. https://www.twinkl.co.uk/event/deaf-awareness-week-2021
  • British-Sign – Mae gan y wefan British-Sign llwyth o adnoddau diddorol, fel dangos sut i arwyddo rhai geiriau, cyfle i chi greu croesair arwyddo eich hunain ond hefyd y gem ‘fingerspelling’ – gem lle mae gofyn i chi ddyfalu y gair sy’n gael ei sillafu allan – y cyflymaf yr ydych chi, y gorau fydd eich sgôr! https://www.british-sign.co.uk/fingerspelling-game/
  • Youtube – Mae amrywiaeth eang o fideos ar youtube sydd yn galluogi i chi ddysgu iaith arwyddo, sut i arwyddo i ganeuon neu sianeli pobl tebyg i Jazzy sydd yn creu fideos a vlogs o’i bywyd – mae hi yn fyddar ei hun!

Cerdded i godi arian!

Ychydig wythnosau yn ôl, ar y post yma – https://arwyddo.cymru/2021/03/22/cydnabyddiaeth-i-iaith-arwyddo/ -, nes i rannu stori Kim a Caio Cymru o Bwllheli i chi. I grynhoi’r stori yna, cafodd Caio ei eni 10 wythnos yn fuan, ac o ganlyniad i hyn roedd ychydig o oedi yn ei ddatblygiad ac felly penderfynodd Kim a theulu Caio gychwyn arwyddo hefo fo i helpu hefo cyfathrebu. Wrth ysgrifennu ei stori, nododd Kim faint o fudd fydd yr ap Arwyddo iddi hi, ei theulu, ffrindiau a’r gymuned leol.

Mae Kim felly wedi penderfynu cynnal taith gerdded 25 milltir hefo criw bychan i helpu codi arian i gyfrannu at ddatblygiad yr ap Arwyddo. Mae hi wedi penderfynu gwneud hyn oherwydd bod arwyddo yn rhywbeth sydd yn agos iawn at ei chalon, gan ei bod hi’n arwyddo’n ddyddiol gyda’i mab bach hoffus, Caio Cymru. Prin iawn oedd yr adnoddau cyfrwng Cymraeg oedd ar gael iddi ar y dechrau, felly mae ap tebyg i Arwyddo yn mynd i fod yn gymaint o gymorth i deuluoedd Cymraeg tebyg, ac i bobl eraill sydd eisiau dysgu. Gan fod hyn yn rhywbeth rwyf yn hynod ddiolchgar ohono ac yn weithred hynod glên, dwi wedi penderfynu ymuno hefo Kim ar y daith hefyd.

Mae tudalen JustGiving wedi cael ei sefydlu er mwyn casglu arian ar gyfer yr achos. Mi fuaswn yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad am hyn. Roedd creu tudalen crowdfunding fel hyn yn un opsiwn roeddwn wedi cysidro wrth feddwl am ddod o hyd i arian i greu’r ap yma, ond wastad wedi rhoi’r syniad i gefn fy meddwl. Dwi’n hynod ddiolchgar felly i Kim a’i ffrindiau am gael y syniad i fynd ar daith cerdded a hynny un un hir fel hyn er mwyn gallu casglu arian i gyfrannu at gread yr ap.

https://justgiving.com/crowdfunding/arwyddo – Diolch x

Diolch unwaith eto i chi gyd am ddarllen ac am fod mor gefnogol!

Lle dwi arni wan?

Fel dwi’n dweud ar ddechrau pob blog… lle mae’r bythefnos dwytha’ wedi mynd?! Mae o’n teimlo na dim ond ddoe oni’n ysgrifennu’r post dwytha’! Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn, dwi bellach nol yn yr ysgol ar ôl Gwyliau Pasg, ac yn aradeg yn dod yn ôl fewn i rwtin – y boreau cynnar a’r dreifio yn ôl a ‘mlaen yn cychwyn dod yn haws erbyn heddiw! Dwi dal ddim yn ôl i fod yn fy ‘normal self’ ‘lly, dal ychydig tawelach ar y cyfryngau cymdeithasol, a thrio cymryd un dydd ar y tro – a dwi dal i drio cysuro fy hun gan ddweud fod hynny yn oce! Dwi rhy galed ar fy hun weithiau ac yn mynd i deimlo’n ddrwg am beidio â phostio ar y cyfryngau yn aml… ond mae’n iawn i bawb cael brêc bach!! Fedrwn ni gyd ddim gwneud pob dim pob tro! 🙂

Penderfynu ar y geiriau terfynol…

Ychydig wythnosau yn ôl, fe gynhaliais holiadur er mwyn ceisio gweld eich barn ar wahanol agweddau o’r ap wrth i fi fynd ati i gynllunio. Un o’r agweddau yna oedd pa fath o eiriau / categori o eiriau hoffech ei weld ar yr ap. Mae hyn wedi bod yn fuddiol iawn i mi wrth fynd ati i lunio rhestr – mae o i weld yn ‘never-ending’ ar y funud! Dwi’n trio meddwl beth fyddai orau ar gyfer y lansiad, ond i fi, mae popeth yn bwysig i’w gynnwys felly mae’n anodd tynnu llinell. Er dweud hynny, dw’i bellach wedi pasio 300 gair a dwi’n meddwl bod mwy y gallai ychwanegu hefyd!

Yn amlwg, 300 gair cychwynnol yw hyn, ac wrth ddiweddaru’r ap pob hyn a hyn bydd mwy yn cael ei ychwanegu felly dwi ddim yn poeni gormod am faint o eiriau a pa eiriau dwi eisiau cychwyn hefo nhw. Dwi wedi ceisio cynnwys categorïau megis teimladau, aelodau’r teulu ac efallai arwyddion fuasai’n ddefnyddiol mewn siopau, caffis ac ysgolion. Plîs, os oes rhywbeth penodol rydych eisiau i fi gynnwys, neu unrhyw gategori penodol, plîs cysylltwch â fe wna’i fy ngorau i’w gynnwys neu i’w gynnwys mewn diweddariad cynnar ar ôl ei lansio.

Dyma grys-t nes i brynu ychydig flynyddoedd yn ôl sydd yn defnyddio’r wyddor BSL i sillafu’r gair LOVE. Roedd yn grys-t elusen os dwi’n cofio’n iawn, ond mae cwmni arall – Deaf Identity – sydd yn gwneud pethau tebyg ac maent am gael gwerthu eu cynnyrch yn John Lewis, sydd yn golygu y byddent yn creu hanes drwy fod y cwmni cyntaf gan bobl fyddar i gael eu cynnwys mewn ‘pop-up’ yn un o siopau mwyaf Prydain! Cerwch am sbec ar eu gwefan! https://www.deafidentity.com/

Instagram

Dwi wrth fy modd yn eich diweddaru ar instagram, a cheisio darparu amrywiaeth i chi o ffeithiau diddorol, sialensiau dyfalu gair, lluniau, fideos a reels bach sy’n hwyl (er fy mod wedi bod ychydig distawach yn ddiweddar!). Wrth holi ar fy ‘stories’ pa fath o bethau rydych chi yn hoffi ei weld, roedd yr ymateb yn amrywio, sydd yn dda i glywed gan fod pawb yn hoffi pethau gwahanol ac mae’n rhoi’r hwb i fi wedyn i barhau i bostio amrywiaeth. Gwelwch enghreifftiau diweddar o beth sydd wedi ei bostio ar fy instagram (heb gynnwys reels).

Gwersi BSL

O’r diwedd, ar ôl bron i flwyddyn allan dwi’n ôl yn y coleg! Mae fy ngwersi BSL hefo Coleg Llandrillo wedi bod ar-lein ar zoom ers y cyfnod clo cyntaf – roedd hynny yn golygu gwneud fy asesiadau ‘Advanced Skills Level 3’ i gyd ar-lein ar zoom. Mae o wedi bod yn heriol i ddweud y gwir, gan fod pawb yn fach ar y sgrin – roedd hyn felly yn golygu bod darllen gwefusau, mynegiant y wyneb a gweld siâp y dwylo reit anodd. Er dweud hynny, roeddwn mor falch o gael parhau hefo fy ngwersi ar-lein, a pasio fy asesiadau i gyd – er fy mod yn poeni amdanynt ond wan dwi’n ôl yn y coleg dwi’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau arwyddo ymhellach a gobeithio cwblhau Lefel 3 cyn yr Haf.

Dwi wedi bod yn cael fy ngwersi BSL i gyd dan arweiniad Coleg Llandrillo,

  • Cyflwyniad i BSL
  • Lefel 1
  • Lefel 2
  • Advanced Skills Lefel 3
  • Lefel 3

Alla’i ddim brolio nhw digon, ac mae’r 5 mlynedd dwytha’ wedi hedfan heibio, ond dwi wedi dysgu cymaint. Mae fy sgiliau BSL wedi datblygu cymaint a dwi wedi mwynhau fy hun yn arw a hefyd creu ffrindiau newydd. Dwi’n argymell i unrhyw un sydd hefo diddordeb mewn dysgu arwyddo i fynd drwyddyn nhw (os o’r Gogledd), a chewch weld a darllen mwy ar- https://www.gllm.ac.uk/courses/deaf-studies-and-sign-language/?iaith=cy

Cefnogi busnesau lleol

Efallai eich bod wedi gweld cwmni newydd yn ymddangos ar eich cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar – Dillad Nant. Mae eu cynnyrch yn edrych yn ffab a dwi’n edrych ymlaen i brynu darn ganddynt yn fuan. Dyma bwt amdanyn nhw –

Rydw i (Jack) a fy mrawd Luke yn rhedeg brand ffasiwn newydd Dillad Nant sydd wedi’i leoli yng Ngwynedd, Gogledd Cymru. Dechreuon ni ein taith ym mis Chwefror 2021, ac rydym ni’n mwynhau pob eiliad yn siarad â chwsmeriaid a busnesau bach eraill. Dilynwch ni ar instagram neu facebook I gysylltu â’r busnes a rhannu eich straeon gyda ni!

Instagram Dillad Nant | Facebook Dillad Nant

Diolch eto am eich cefnogaeth ddiddiwedd, dwi’n gwerthfawrogi pob like, comment, follow a neges gan bob un ohonoch. Croeso i chi yrru neges unrhyw dro, dwi wrth fy modd yn darllen pob un. Diolch!

Gonestrwydd

Gonestrwydd

Mae’r bythefnos dwytha’ wedi bod yn heriol i fod yn hollol onest hefo chi – teimlo fel fy mod wedi colli’r cymhelliant i barhau i weithio ar stwff, colli’r amynedd i greu post diddorol ar gyfer y gwefannau cymdeithasol a cholli’r awydd i weithio. Dwi’n berson hollol bositif fel arfer, rhywun sydd wastad llawn egni ac yn hapus, felly roedd teimlo fel hyn yn anarferol i fi ac roeddwn yn rhoi amser caled i fi’n hun am deimlo fel hyn ac am beidio â mynd ati i wneud gwaith. Roedd gwneud hyn yn gwneud i mi deimlo yn hyd yn oed gwaeth, ac felly yn fy mhwsio yn bellach i ffwrdd o’r laptop ac roedd yr awydd i wneud unrhywbeth yn diflannu.

Ar ôl cael amser i fyfyrio, dwi’n meddwl mai un o’r rhesymau dros hyn yw mynd yn ôl i weithio. Ers diwedd Rhagfyr, rydym wedi bod yn gweithio o adref hefo’r ysgol lle roedd y gwersi byw i gyd ar-lein. Dwi’n byw ym Mhwllheli a gweithio ym Mangor, felly allwch chi ddychmygu wrth weithio o adref fy mod wedi arbed llawer o amser – arbed 50 munud ddwy ffordd o ddreifio ac arbed oriau yn y bore’ o beidio gorfod deffro wedi 6 i wneud fy hun yn barod! Felly pan aethom yn ôl ganol fis Mawrth, roedd yn sioc i’r system braidd! Doeddwn heb godi wedi 6 ers misoedd, na chwaith wedi gorfod dreifio yn ôl a blaen pob diwrnod i Fangor – roedd hyn felly yn golygu fy mod wedi blino yn ofnadwy yn cyrraedd adref pob diwrnod, a oedd wedyn yn golygu fod gen i ddim y mynadd i fynd ati i weithio ar y laptop ar ôl gweithio drwy’r dydd.

Mae hyn yn swnio fel fy mod yn cwyno – tydw i ddim o bell ffordd! Dim ond eisiau egluro fy sefyllfa. Mae pawb sydd yn fy adnabod yn gwybod fy mod ddim yn ‘morning person’ o gwbl, felly dyna dwi’n meddwl yw’r broblem yma.. ha! Dim ond mater o ddod i arfer eto ydi o – a dwi’n siŵr y byddaf yn iawn ar ôl y Pasg yma i fynd yn ôl i rwtin a chael gafael arni eto. Mae o ychydig bach yn rhyfedd hefyd – gwybod fy mod yn mynd mewn i fy nhymor olaf yn Ysgol Tryfan. Mae’r ferch dwi’n gymhorthydd iddi ym Mlwyddyn 11, ac felly yn gadael yr ysgol Haf yma, felly nes i benderfynu mai dyma oedd yr adeg ‘perffaith’ i fi benderfynu be dwi’n mynd i wneud nesaf a dyna pryd nes i benderfynu fy mod am fynd yn ôl i’r Brifysgol i wneud cwrs blwyddyn ymarfer dysgu Cynradd. Ers dwi’n ifanc, mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi ei grybwyll sawl gwaith – tyfu i fyny yn dynwared bod yn athrawes adref, ac yna meddwl yn ddwys am y peth yn y Brifysgol. Mae ‘If not now… when?’ wedi bod yn mynd rownd yn fy mhen erstalwm ac felly dyma ni. Dwi wrth fy modd yn gweithio yn Nhryfan, mae’n ysgol anhygoel ac mae wedi bod yn bleser cael cyd-weithio hefo pawb. Mi fydd gadael yn anodd iawn, ac mae hynny wedi bod yn chwarae ar fy meddwl i hefyd.

Gorffen Llwyddo’n Lleol

Efallai rheswm arall dros golli’r cymhelliant yma yw bod cynllun 10 wythnos Llwyddo’n Lleol wedi dod i ben. Roedd cyfarfod pob wythnos fel criw yn fy nghadw i fynd – roedd gennym sialens i’w gwblhau pob wythnos ar y cyfryngau cymdeithasol, ac roedd cwblhau hynny yn rhoi’r hwb i fi bostio rhywbeth ac i barhau. Mae colli’r cyswllt wythnosol yna wedi rhyw fath o dorri rwtin, a dwi’n teimlo ychydig bach ar goll! Er dweud hynny, braint oedd cael bod yn rhan o gohort Llwyddo’n Lleol eleni, ac roedd yn brofiad anhygoel cael pitch’io ein syniad i banel o bobl ar yr wythnos olaf. Roedd gofyn i ni gyflwyno ein syniad mewn 3 munud i banel o 3, lle roedden nhw wedyn yn dewis eu hoff pitch i ennill gwobr ariannol o £1000.

Llongyfarchiadau anferthol i Dan ar ennill y pitch – llwyr haeddiannol ac roedd ei gyflwyniad 3 munud yn anhygoel. Busnes Dan yw cynnig gwasanaeth tynnu lluniau, fideos ac arolygu yn defnyddio drone. Mae wedi cwblhau gwaith arbennig hyd yn hyn, ac fel y gwelwch o’i luniau isod, mae’n llwyddo i wneud hyn yn anhygoel.

Facebook Dan | Instagram Dan

Diolch hefyd i chi gyd! Roedd cystadleuaeth ‘Barn y Bobl’ hefyd yn cael ei gynnal gan Golwg360, lle’r oedd gennych chi’r cyfle i bleidleisio ar gyfer eich hoff syniad busnes a siwrne pwy rydych chi wedi ei fwynhau fwyaf. Roedd y wobr ariannol o £1000 yma yn cael ei rannu rhwng y 1af, 2il a 3ydd. Roedd yn fraint o gael 1af yn y bleidlais yma, felly diolch i chi gyd! Mae’n meddwl gymaint eich bod chi gyd yn gweld budd i fy ap i, ac eich bod wedi mwynhau dilyn fy siwrne ar y cyfryngau cymdeithasol. Mi fydd yr arian yma yn mynd tuag at ddatblygu’r ap, felly diolch eto.

Canolbwyntio ar fi!

Er fy mod yn parablu am golli cymhelliant a pheidio gweithio, un peth dw’i wedi mwynhau ydi cael mynd allan am dro a mwynhau’r tywydd braf! Dwi’n ffodus iawn o gael byw mewn ardal mor hardd lle mae amryw o lefydd braf i gael mynd i grwydro. Mae llacio ychydig ar gyfyngiadau Covid wedi bod o fudd mawr i fi, lle dw’i wedi cael neidio yn y car i fynd i grwydro, a chael cyfarfod ffrindiau tu allan unwaith eto.

Dyma ychydig o luniau sydd yn cyfleu harddwch fy ardal leol.

Dwi’n trio rhoi mwy o sialensiau i fyny ar instagram rŵan, lle dwi wedi rhoi llun i fyny o sut mae arwyddo llythrennau’r wyddor, ac yna mi fydda’i yn postio llun o air wedi ei sillafu a bydd gofyn i chi geisio gweithio allan beth mae yn ei sillafu. Mae hyn yn ffordd dda i chi ymarfer eich ‘fingerspelling alphabet’, a cheisio gweithio allan beth mae’n ei sillafu. Cadwch lygaid allan ar instagram felly i weld beth fydd y gair / frawddeg nesaf!

Ar y funud, rydw i’n ceisio cynllunio gwahanol bethau i wneud hefo’r blog a instagram, gan obeithio creu fideos diddorol a rhannu mwy o straeon a phrofiadau gan unigolion gwahanol hefo chi! Does dim datblygiad mawr i’ch diweddaru am greu’r ap chwaith mae arna i ofn. Dwi dal yn y cyfnod o wneud ymchwil i mewn i faint mae’n ei gostio i ddatblygu ap – dwi wedi cael dipyn o brisiau amrywiol gan gwmnïau gwahanol, ac felly angen parhau i ymchwilio ac yna dod o hyd i arian i wireddu fy mreuddwyd o greu adnodd i helpu annog dysgu iaith arwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os ydych chi wedi cyrraedd y darn yma – diolch o waelod calon am ddarllen! Dwi’n gwybod fod y blog yma yn dod ar draws fel fy mod yn cwyno dipyn, ond dwi wedi gaddo i fy hun fy mod yn bod mor onest â phosib yma, ac yn barod i rannu pwy ydw i hefo chi! Digwydd bod, rydw i wedi cael wythnosau ychydig bach yn anghynhyrchiol, ac mae hyn yn wir amdanom ni gyd weithiau dwi’n siŵr! Mae hi bellach yn wythnos newydd, a dwi’n edrych ymlaen at weld beth alla’i gyflawni wythnos yma a lle alla’i fynd nesaf!

Cydnabyddiaeth i Iaith Arwyddo!

Mae’r wythnosau rhwng ysgrifennu y blogiau yma yn hedfan heibio!! Diolch i chi gyd am ddod yn ôl i ddarllen pob tro!

Wythnos Iaith Arwyddo 2021

Mawrth 15 i Fawrth 21 2021 oedd wythnos iaith arwyddo ‘leni… ond pam? Nol ar Fawrth 18, 2003 cafodd iaith arwyddo ei gydnabod fel iaith leiafrif gan Lywodraeth Prydain. Roedd hyn yn rhywbeth roedd y British Deaf Association (BDA) wedi ceisio gwneud ers yr 80au! Cyn cael ei chydnabod fel iaith nol yn 2003, roedd miloedd o bobl ym Mhrydain wedi bod yn protestio er mwyn cael y gydnabyddiaeth yma – nol yn Gorffennaf 2000, roedd oddeutu 10,000 o bobl yn protestio yn Trafalgar Square yn Llundain, ac mewn digwyddiad gwahanol yn Wolverhampton, cafodd 6 unigolyn byddar eu harestio am flocio lon fel rhan o brotest – y bobl fyddar cyntaf i gael eu harestio am weithgaredd gwleidyddol sy’n gysylltiedig â materion byddardod.

Mae cael cydnabyddiaeth yn grêt i’r iaith, yndi ddim? Nadi.. ddim o reidrwydd… Dim ond rhan fach o’r frwydr yw cael cydnabyddiaeth i’r iaith, oherwydd tydi hyn ddim yn golygu fod ganddo statws na hawliau cyfreithiol! Mae gan 4 iaith ym Mhrydain statws cyfreithiol sydd yn gallu cael ei warchod – Cymraeg, Gwyddeleg, Cernyweg a Gaeleg. Y gobaith gan bobl fyddar ym Mhrydain yw adio BSL i’r rhestr yna. Mae gan Yr Alban Ddeddf BSL – yr unig wlad ym Mhrydain i roi statws cyfreithiol i BSL ac felly mae hyn yn galluogi iddynt godi ymwybyddiaeth am yr iaith ac i wella mynediad at wasanaethau i bawb sydd yn defnyddio’r iaith. Roedd rhaid i’r Llywodraeth yn Yr Alban ddod fyny hefo cynllun ar sut maent am hyrwyddo’r iaith.

Mae ymgyrch newydd rŵan o’r enw ‘BSL Act Now’ – lle maent yn ymgyrchu i greu cynllun cadarn a chlir sydd am wasanaethu fel y sylfaen ar gyfer cyrraedd y nod o gael Deddf BSL. Mae pobl yn flin bod 18 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r iaith gael ei chydnabod… a bod dal dim statws cyfreithiol iddi! Does gan bobl fyddar ddim yr un mynediad at wybodaeth a gwasanaethu fel sydd gan bobl sy’n clywed. Mae rhaid i bobl fyddar ddibynnu ar ddeddfwriaeth gwahaniaethu anabledd er mwyn gallu cael mynediad at wybodaeth yn eu hiaith eu hunain. Mae rhai darparwyr gwasanaethau yn gwrthod ceisiadau pobl fyddar i gael ‘interpreter’ Saesneg/BSL a rhai awdurdodau addysg yn gwrthod ceisiadau rhieni i gael staff cefnogi sydd wedi cymhwyso mewn BSL i gynorthwyo eu plant – a dyma yw mond rhai o’r heriau sy’n eu gwynebu!

“The 18th March 2003 was when the UK Government formally recognised British Sign Language as a language in its own right. It also promised to look into a legal status for BSL. Eighteen years on, we’re still waiting. Waiting for the key to the door to a BSL Act. No more. We’re not waiting any longer.”

British deaf association

Pwrpas Wythnos Iaith Arwyddo pob blwyddyn felly yw codi ymwybyddiaeth o’r materion a’r heriau sy’n effeithio defnyddwyr iaith arwyddo, ac yn fwy cyffredinol, lles pobl fyddar ym Mhrydain. Er gwaethaf yr ochr negyddol, mae Mawrth 18 yn ddyddiad arbennig iawn i bobl fyddar ym Mhrydain gan fod y gydnabyddiaeth yn gam mawr ymlaen ar y pryd. O fewn yr wythnos, mae ymgyrchau a phrosiectau gwahanol yn cael eu lansio, sydd â nod o wneud i bobl fyddar teimlo’n fwy reassured, ac i dynnu sylw at eu hanghenion a’r problemau y maent yn ei wynebu.

Er rydym yn dathlu Wythnos Iaith Arwyddo ym Mhrydain yn fis Mawrth, mae Diwrnod Rhyngwladol Ieithoedd Arwyddo ac Wythnos Ryngwladol y Byddar yn cael eu cynnal yn fis Medi, gyda’r un nod i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth am iaith arwyddo ac i annog diwylliant byddar i ffynnu ar raddfa fyd-eang.

Fel rhan o Wythnos Iaith Arwyddo felly, dwi wedi bod yn rhannu ffeithiau diddorol draw ar instagram, a rhai fideos hefyd. Wedi rhoi sialens i rai o fy nilynwyr i arwyddo ‘Wythnos Iaith Arwyddo Hapus’ – ac aeth hynny yn wych! Oddi’n grêt gweld gymaint ohonoch yn trio felly diolch yn fawr iawn i chi am hynny! Y fideo gyferbyn yw ‘reel’ nes i bostio ar instagram yn arwyddo a chael ychydig bach o hwyl hefo Nel – y ferch y mae gen i’r fraint o weithio hefo hi!

Stori Caio Cymru

Mae Kim a’i theulu yn dod o Bwllheli, ac maent fel teulu yn defnyddio arwyddo yn ddyddiol. Dyma eu stori nhw!

Helo, fy enw i yw Kim, a dyma Caio Cymru a’i sidekick Cari! Fe gafodd Caio ei eni 10 wythnos yn fuan, felly roeddwn i’n gwybod y bydd dipyn o oedi yn ei ddatblygiad am ei fod o yn fabi prem. Wrth i amser fynd heibio, fe wnaethom benderfynu defnyddio rhai arwyddion makaton fel llefrith, bwyd a gwely ayyb – rhai syml i helpu Caio i ddod yn ei flaen. Pan oedd Caio o gwmpas 8/9 mis oed, doedd o ddim yn tyfu fel plant eraill oedd wedi cael eu geni yn 30 wythnos.

Fe gafodd Caio brawf genetig, ac fe gawsom y diagnosis anghyffredin o ‘deletion of the long arm chromosome 13’. Roedd hyn yn golygu oherwydd ei fod yn ddilead anghyffredin ar ddarn mae Caio yn methu, doedden nhw ddim yn gallu rhoi dim syniad i ni o ddatblygiad dealltwriaeth na corfforol Caio. Ar ôl y sioc â’r torri calon, es i fel Mam i mewn i ‘overdrive’ i wneud yn siŵr fy mod yn dysgu gymaint ag oni’n gallu o arwyddo a hefyd fel fy mod yn gallu dangos yr arwyddion i gymaint o ffrindiau a theulu. Aeth Caio i’r cylch meithrin yn Y Ffôr ac fe wnaethon nhw ddefnyddio Makaton hefo fo, ac roedd y plant bach eraill yn dysgu hefyd. Yna, pan roedd Caio yn oed mynd i’r ysgol, roedd Ysgol Abererch wedi paratoi’r plant ac wedi dysgu ychydig o Makaton iddyn nhw allu defnyddio arwyddo hefo Caio. Does yna ddim geiriau i ddisgrifio pa mor ddiolchgar ydw i i’r 2 le yma am fod mor dda a chynnwys Caio fel pob plentyn arall.

Mi fydd Caio yn 5 oed mis Gorffennaf, ac mae o yn trio siarad, ac wedi gallu cyfri o 1-5 yn annibynnol wythnos diwethaf! Mae Caio yn deall pob dim rydw i’n ei ddweud a’i ofyn, ond tydi o ddim yn gallu siarad i ateb yn ôl, felly dyna pam fod arwyddo mor bwysig i ni fel teulu a ffrindiau Caio, i bawb allu ei ddeall ac i allu diwallu ei anghenion. Mae Cari ei chwaer fach yn defnyddio arwyddo hefyd, ac weithiau mi fydd hi yn gwneud pethau i fyny ei hun haha – mae hi wedi bod a dal yn ffantastig efo’i brawd mawr.

(Llun o Caio a Cari hefo Sion a Cara eu brawd a chwaer mawr, a’u tad, Iwan)

Mae yna gymaint o bobl sydd ddim yn gallu clywed neu ddim yn gallu siarad, ac felly mae Arwyddo mor bwysig er mwyn gallu cynnwys pawb yn y byd. Rydym yn dysgu siarad Ffrangeg a Sbaeneg ayyb, ond mae arwyddo’r un mor bwysig yn fy marn i, os nad mwy! Mae syniad yr ap mae Lois yn gweithio arno yn absolutely brilliant ac mae o wir yn agos at fy nghalon i.

Mae Kim wedi creu grwp ar facebook i rannu fideos ohoni hi a’r plant yn arwyddo, er mwyn gallu dysgu ei theulu a’i ffrindiau sut i arwyddo rhai geiriau penodol. Dyma glip allan o un o’r fideos yna – mae nhw mor werthfawr!

Diolch mawr i Kim am rannu stori Caio Cymru, ac am ddweud pa mor bwysig ydi arwyddo iddyn nhw fel teulu. Storiau fel hyn sydd yn helpu i mi sylweddoli pam fy mod ar y siwrne yma o geisio datblygu yr ap!

Dod i derfyn Llwyddo’n Lleol!

Waw. Mae’n anodd coelio fy mod bellach ar fy wythnos olaf hefo Llwyddo’n Lleol – lle mae’r 10 wythnos dwytha’ wedi mynd?! Alla i ddim diolch digon am yr holl gymorth rydw i wedi ei dderbyn drwy Llwyddo’n Lleol. Mae’r sesiynau wythnosol wedi bod yn help mawr – rydym wedi cael siaradwyr gwadd arbennig yn dod mewn i siarad hefo ni, yn amrywio o gyfreithiwr, arbenigwyr marchnata a chyfryngau cymdeithasol & ymgynghorwr busnes. Maent oll wedi rhannu gwybodaeth a ‘tips’ hynod ddefnyddiol, ac mae gen i bellach llyfr nodiadau hollol lawn! Dwi wedi dysgu lot, a dwi’n credu fy mod i a fy musnes bach wedi blodeuo cymaint ers cychwyn ar y cynllun 10 wythnos yn ôl!

Mae diolch mawr i’r criw hefyd – Dan, Alaw, Nathan, Mirain, Cynan ac Osian – mae wedi bod yn bleser cael bod ar siwrne Llwyddo’n Lleol hefo chi. Gwerthfawr yw cael y cyfle i rannu syniadau hefo’n gilydd, ac i helpu’n gilydd ar y daith yma. Mae cychwyn busnes yn gallu bod yn anodd iawn, ond mae cael cefnogaeth ein gilydd drwy hyn wedi bod yn ffab – dwi’n meddwl rydym ni gyd wedi cael dyddiau lle mae popeth yn teimlo’n ormod weithiau, ond rydym oll yn barod i godi hwyliau ein gilydd, gwneud ein gilydd chwerthin ac fel mae Mirain yn dweud, gwneud i ni sylweddoli ei fod o i gyd ‘for the bants’!!! Dwi’n edrych ymlaen yn arw i weld busnes pawb yn ffynnu ar ôl hyn – a dwi’n siŵr y byddwn yn parhau i helpu a bod yn gefn i’n gilydd yn y dyfodol.

Nos Iau yma (25/03/21) mae cystadleuaeth ‘Taro’r Nodyn’ – lle bydd pob un ohonom griw Llwyddo’n Lleol eleni yn cael y cyfle i pitcho ein syniad i banel er mwyn ceisio ennill gwobr o £1000. Mi fydd yr arian yma yn gymaint o help i fi er mwyn cyfrannu at gost creu ap (heb sylweddoli dan rŵan faint mae o’n costio i ddylunio a datblygu ap… waw!) Dwi’n brysur iawn ar y funud yn trio mireinio fy mhitch… dwi’n berson sydd yn gallu siarad lot ac yn dueddol o ramblo, a dim ond 3 munud sydd gennym! Mae’n bwysig felly fy mod yn dewis yn ofalus beth yn union dwi eisiau ei ddweud a cheisio cael fy mhwynt drosodd yn sydyn ac mewn ffordd sydd am waw’io y panel! ‘Watch this space’ fel maen nhw’n ei ddweud… gobeithio eith hi’n wych!

Roedd meddwl am ddod a fy syniad yn fyw yn fy nychryn i braidd, ond ni allwn feddwl am ffordd well i’w wneud na dan arweiniad Llwyddo’n Lleol. Dwi wir ddim eisiau i’r 10 wythnos yma ddod i ben!! Mae’r ymateb i’r syniad ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi bod yn anhygoel ac wedi fy helpu i gymaint i sylweddoli pam fy mod yn gwneud hyn – i helpu eraill! Diolch i chi gyd – edrych ymlaen yn arw i weld yr ap yn dod yn fyw!

Yn cyflwyno… Mirain / INDI

Mae Mirain wedi bod ar y cynllun Llwyddo’n Lleol hefo fi eleni, ac mae wedi bod yn bleser cael bod ar y siwrne hefo hi. Mae hi’n ferch lyfli ac wastad yn gallu codi calon unrhyw un. Dyma Mirain yn ateb ychydig o gwestiynau am ei busnes hi – INDI.

Cyflwyno dy hun

Mirain Rhisiart, 23 oed o Flaenau Ffestiniog. Gradd mewn Theatr ac gyda diddordeb bod yn berson camera. Dwi’n mwynhau coginio, mynd am dro a gwylio ffilms.  Hoff beth – sgio lawr y piste hefo peint.

Syniad busnes 

Cychwyn busnes yn ystod y pandemig er mwyn gallu taflu fy ngreadigrwydd a fy egni i mewn i rywbeth gan nadw oeddwn i wedi gweithio’n llawn amser ers mis Ebrill. Creu dillad Cymraeg gyda steil minimal, unisex. Datblygu cynnyrch newydd sef canhwyllau cwyr naturiol a gobeithio rhyddhau yn fuan iawn!

Pam dewis bod yn rhan o Llwyddo’n Lleol?

Roeddwn yn hoffi’r syniad o fynd ar y daith hefo criw o bobl a cael cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Top tips i rywun sydd yn meddwl am gychwyn busnes ond ddim yn siwr beth i’w wneud?

1. Os ydy meddwl am gychwyn busnes yn dy gynhyrfu di ac yn dy wneud di’n nerfys dros ben – cychwyna fusnes!!! DO IT!

2. Bydd yn fodlon derbyn cyngor a gwrando ar syniadau eraill ond ar ddiwedd y ddydd dy fusnes di ydy o a chdi sy’n gwbod yn well. Mi fydd pawb yn ‘business expert’ munud dy fod di’n cychwyn busnes felly cofia nad wyt ti’n gorfod actio ar gyngor neb, ond gwrando.

3. Ddim i fod yn cliche, ond trio wneud rhywbeth bob diwrnod neu bob hyn a hyn sy’n dy ddychryn di. Drwy wneud hynny mi wnei di fagu hyder a datblygu fel person busnes effeithiol.

Rhywbeth arall fysa chdi’n licio ddeud?

Cynaliadwyedd oedd un o’r petha pwysica genai pan roeddwn i’n edrych ar sut oeddwn i am redeg y busnes. Roeddwn i’n benderfynol o beidio symud gwastraff o un lle i’r llall, o’r busnes i’r cwsmer felly mae fy sustem pacio a postio i’n 100% ailgylchadwy. Ro’n i hefyd yn awyddus i greu brand a oedd yn gwerthu ystod eang o gynnyrch a oedd yn cael bron i ddim effaith ar yr amgylchedd fel dillad cotwm wedi’w adfywio, cynnyrch cartref i’w ail-ddefnyddio fel wgellt dur a bagiau cotwm er mwyn hyrwyddo siopa di-blastig.

Gwefan INDI | Instagram INDI | Facebook INDI

Diolch unwaith eto am ddarllen fy mlog – rydw i wrth fy modd yn eu hysgrifennu a chael eich diweddaru hefo popeth sydd yn mynd ymlaen! Cofiwch fy mod yn postio ar instagram yn aml felly cerwch draw i weld beth yw’r diweddaraf! Welai chi yn ôl yma ar y blog mewn pythefnos!

Rhif 2… yn barod?!

Anodd coelio fod pythefnos wedi bod yn barod ers y blog cyntaf- boncyrs! Mae amser wir yn hedfan!

Rhoi sylw haeddiannol i… Betsan Dafydd!

Ychydig wythnosau yn ôl cefais neges fendigedig gan Betsan ar instagram (@betsan_makeup), yn nodi ychydig am bwy ydi hi ac am sut y bydd fy ap o fudd iddi hi. Roedd wedi fy ngwneud yn emosiynol a dweud y gwir – cael neges mor deimladwy. Dyna pam felly fy mod yn rhoi darn o fy mlog heddiw i rannu ei stori hi.

Felly.. pwy yw Betsan? Mae hi’n 39 mlwydd oed, yn gweithio fel artist colur ac yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n fyddar ers ei geni ac yn gwisgo offer clyw yn y ddwy glust pob dydd heblaw pan fydd yn cysgu, fel mae hi’n dweud “mae’n braf cysgu mewn tawelwch a ddim clywed rhywun yn chwyrnu, gwyntio ayyb”. Yn ei fflat, mae gan Betsan offer clyw i’w chynorthwyo, megis larwm tan a chloc larwm sydd yn mynd o dan ei chlustog ac yn dirgrynu. Mae ganddi oriawr hefyd sydd yn dirgrynu i adael iddi wybod pan fydd rhywun wrth y drws! Tydi hi ddim yn hoffi tawelwch, gan ei fod yn gwneud iddi deimlo’n unig ac yn ofnus, ac felly mae hi wrth ei bod yn clywed sŵn cerddoriaeth a pobl yn siarad.

Un o hoff ddiddordebau Betsan yw teithio – mae hi wedi ymweld â 57 gwlad yn barod – ac yn mwynhau hyn gan ei fod yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o wahanol wledydd, cael cymdeithasu a mwynhau gweithgareddau gwahanol fel nofio gyda siarcod, trio bwydydd gwahanol, cael taith mewn balwn awyr ac ymweld ag adeiladau adnabyddus fel y Burj Khalifa neu mynd i’r Red Desert yn Namibia.

Tydi Betsan ddim yn arwyddo. Dywedodd, “mae pawb yn holi fi am beth yw’r arwydd am diolch, bore da ayyb. Rwyf yn gorfod ateb sori, dwi ddim yn gallu arwyddo. Roedden nhw yn teimlo yn siomedig, ond mae cwrs arwyddo mor ddrud. Wrth wylio pobl yn arwyddo ar teledu, maen nhw yn mynd yn gyflym ac tydw i ddim yn eu deall.” Mae hi’n dibynnu ar ddarllen gwefusau pobl, ond mae hyn yn anodd pan fydd gan ddynion farf neu fwstas mawr ond hefyd pan fydd pobl yn cuddio eu ceg!! O fod yn 4 oed hyd at 18 mlwydd oed, mynychodd therapi iaith a lleferydd i’w helpu i siarad.

Dyma beth ddywedodd hi – “Dydw i ddim yn gallu arwyddo, ond dwi yn defnyddio ystumiau (gestures) ag yn gallu arwyddo yr wyddor, rhifiau, lle dwi’n byw a beth yw fy swydd. Dydy fy rhieni na ffrindiau yn gallu arwyddo a does neb yn helpu fi – dyna pam dwi’n gorfod siarad. Doedd fy rhieni ddim eisiau i fi fod yn unig. Dydy nhw ddim yn adnabod pobl byddar sy’n siarad Cymraeg yn Caerdydd. Roedd fy rhieni eisiau i fi fynd i ysgol Gymraeg, ond roedd llywodraeth Caerdydd eisiau i fi fynd i ysgol Saesneg gyda plant byddar – roedd fy rhieni ddim yn hapus gyda hyn ag es i i ysgol gynradd ag uwchradd Gymraeg lle roeddwn yn cael fy addysg mewn dosbarth fel pawb arall. Roeddwn hefyd yn cael mynd allan i’r uned yn yr ysgol gynradd oedd ynghlwm gyda’r ysgol i cael dilyn fy rhaglen therapi iaith a lleferydd ac roedd gyda fi gynorthwydd dosbarth a oedd yn dod gyda fi i pob dosbarth yn yr ysgol uwchradd . Roedd y cynorthwydd dosbarth yn fy helpu i ysgrifennu lawr beth roedd yr athrawes yn dweud neu gwneud nodiadau pan oeddwn yn darllen gwefus yr athrawes. Roeddwn ni yn gwisgo bocs rownd fy ngwddw ac hefyd roedd un gyda’r athrawes dosbarth, roedd hyn yn gweithio yn dda tan bo ni yn cael ‘supply teacher’ yn yr ysgol gynradd a oedd ddim yn gyfarwydd ag e ac wedyn yn gweiddi lawr y bocs!!! Nes i ddim cwrdd a pobl byddar tan mynd i’r coleg.”

Coleg a bywyd gwaith – Ar ôl mynychu’r coleg i wneud cwrs colur a gwallt ar gyfer ffilmiau a theledu, gwelodd hysbyseb swydd a oedd yn hyfforddi unigolyn am flwyddyn i ddod yn berson colur a gwallt – “roedd yn brofiad gwych a chael y cyfle i gwrdd â make-up designers a make-up artists” – ac ar ôl y cwrs yma cafodd gyfle i fynd i weithio gyda ‘make-up designer’. Yn 21 mlwydd oed wedyn, cafodd swydd fel person colur a gwallt ar y rhaglen deledu Cymraeg, ‘Rownd a Rownd’. Ers hynny, mae Betsan wedi cael profiadau gwych a gweithio ar raglenni adnabyddus fel McDonald & Dodds, His Dark Materials, Doc Martin, Father Brown, Casualty ac The Crown! Gweler restr o’i holl waith yma.

“Rwyf wedi cael profiad da a hwylus yn coleg a dysgu i fod yn ferch colur, byddaf yn cefnogi unrhyw berson byddar i ddilyn ei breuddwyd dydy bod yn fyddar ddim yn stopio chi, oes ma sawl clwyd i neidio ond rwyf wedi dod ben a hi.”


Heriau Covid19 / Masgiau / Cyfathrebu “Dros cyfnod covid-19 – mae pawb yn gorfod gwisgo mwgwd mewn adeilad. Rwyf yn gwisgo mwgwd gyda ffenest clir ond mae yn anghyfforddus ac yn chwyslud pan oeddwn i’n siarad ag maer ffenest yn mynd yn ‘misty’. Dechreuais i gweithio ar McDonald & Dodds – roeddwn i’n gwisgo mwgwd a visor pob dydd tu fewn i’r trailer colur, ar y set, ayyb. Fel arfer, pan roeddwn i’n rhoi colur i actor, doedden nhw ddim yn gwisgo mwgwd ond roedd hynny’n iawn gan fy mod mewn trailer fy hun a ddim rhannu gyda makeup artist na cast arall. Roeddwn i ar actor yn gallu siarad gyda’n gilydd, ac roedd e’n deall pob gair pan oeddwn i’n siarad gwisgo mwgwd. Roedd pob un o’r cast a criw yn gorfod cael prawf covid un neu dwy waith yr wythnos. Roedd criw a cast yn fy helpu ac yn siarad yn glir i fi pan roedden nhw’n gwisgo mwgwd neu roedd gen i fwrdd gwyn bach mewn yn fy mag colur, felly os doeddwn i ddim ddeall beth oedden nhw yn dweud – roedden nhw yn ysgrifennu ar y bwrdd gwyn i fi. Roedd angen cofio gofyn iddyn nhw am hand gel wedyn i rhoi wipe i’r beiro a’r bwrdd gwyn cyn i fi ysgrifennu lawr. Dwi eisiau iddyn nhw gadw yn saff ac yn ddim eisiau pasio y virus. Dwi’n gwybod fod pawb yn ei ffeindio yn anodd wrth fethu darllen gwefus neu pan yn gwisgo mwgwd.”

Mae Betsan wedi cael ambell i her pan mae hi’n dod i gyfathrebu. “Os tydi pobl heb cwrdd a fi o’r blaen neu pobl byddar – rhaid i fi esbonio iddyn nhw bo fi yn fyddar, plis fedri di siarad yn glir ayyb. Weithiau, os toeddwn i ddim yn deall – roeddwn yn gofyn rhywun dod gyda fi am cymorth.” Un peth mae hi’n ei weld yn anodd ac yn siomedig amdano yw bod gwasanaethau megis lle doctor, deintydd wastad eisiau siarad ar y ffon, ac mae hyn yn anodd iawn i Betsan. Mi fuasai tecst neu e-bost llawer haws medda hi. Cafodd brofiad gwael mewn cyfweliad o’r blaen hefyd, lle o’r cychwyn cyntaf un roedd rhaid siarad mewn i’r wal gan fod angen siarad gyda’r seinydd ar y wal – ond roedd hyn yn anodd iawn iddi hi! Gofynnodd rhywun iddi wedyn os oedd hi’n gwisgo offer clyw gan ei fod yn ymddangos fel ei bod hi ddim yn ei chlywed yn iawn- roedd hyn wedi ei gwneud yn flin ac emosiynol iawn gan fod rhai o’r cwestiynau roedd yn cael eu gofyn yn ofnadwy!“Pwy rhan o profoundly deaf ma nhw ddim yn deall a bod e ddim yn rhywbeth sydd byth yn mynd i newid i fi!!! Ond rwyf yn byw bywyd llawn er gwaetha ac yn eitha hapus fy myd.”

“Y peth mwyaf pwysig i bobl gofio pan yn siarad gyda person byddar yw i edrych arnyn nhw, dim cuddio y ceg, siarad yn arafach, defnyddio arwyddo wrth siarad os fydd gwneud hyn yn helpu, a bod yn barod i ail ddweud rhywbeth mewn ffordd symlach.”

Diolch yn fawr iawn i ti Betsan am adael i mi rannu dy stori a dy brofiadau. Rwyt ti’n ysbrydoliaeth ac yn siŵr am ysbrydoli nifer o bobl ifanc i fynd i ddilyn eu breuddwydion – boed yn y maes colur, ffilm a theledu neu rywbeth arall. Byddwch yn siŵr o ddilyn Betsan ar ei instagram a gweld y diweddaraf ganddi hi. Ti’n seren – diolch!

Ar y radio!

Bore Iau (25/02/21) cefais y cyfle i fynd ar raglen radio Aled Hughes ar Radio Cymru. Roedd hyn yn gyfle gwych i mi gael sgwrs am Arwyddo. Cefais sgwrs ffab hefo Aled, yn son am sut nes i gychwyn arwyddo, cyrsiau i ddysgu, BSL â’r Gymraeg a datblygiad yr ap. Roedd yn sgwrs ddiddorol iawn, ac roeddwn wedi synnu i fod yn onast ei fod wedi para mor hir! Dwi’n falch iawn efo sut athi, ac yn gobeithio ei fod wedi rhoi cyhoeddusrwydd cadarnhaol i’r ap ac i’r iaith. Rwyf wedi postio recordiad o’r sgwrs ar fy instagram – dilynwch y linc yma i wrando. Diolch Aled!

Instagram yn tyfu

Dyma dwi’n ei weld yn boncyrs – rŵan dwi wir yn sylweddoli’r gwir bŵer sydd gan y cyfryngau cymdeithasol. Un penwythnos roeddwn i yn mynd am dro ar lan y môr Abersoch, ac yn creu post instagram i ddathlu cyrraedd 600 o ddilynwyr ar instagram… 6 diwrnod wedyn, roeddwn yn dathlu cyrraedd 1,000!!!! Mae’r holl beth yn anghredadwy i fod yn onest.

Diolch yn fawr iawn i bawb – dwi wir yn gwerthfawrogi pob ‘like, comment, follow & share’ – maent oll yn meddwl gymaint i fi, er mor llethol mae o’n gallu teimlo weithiau. Dwi wedi mwynhau creu fideos arwyddo i chi, fel yr un rygbi chwe gwlad a’r un diwrnod crempog, a gobeithio y caf barhau i rannu pethau tebyg hefo chi i chi fwynhau a dysgu. Instagram Arwyddo.

Dwi’n mwynhau cymdeithasu hefo chi ar y cyfryngau cymdeithasol, a chael rhannu profiadau a dilyn llwyth o fusnesau bach llwyddiannus eraill. Mae’r gymuned yn un lyfli i fod yn rhan ohono a dwi’n teimlo’n lwcus iawn. Cefais neges gan yr artist anhygoel Lisa Eurgain Taylor ar instagram wythnos dwytha’ hefyd, yn holi am sut mae arwyddo ‘dwi’n caru peintio’ – pa ffordd well o ffilmio fideo iddi hi na sefyll o flaen darn o’i gwaith hi!? Roedd yn ffab gweld Lisa yn cymryd diddordeb ac yna yn trio arwyddo fo ei hun a’i rannu ar ei instagram story! Diolch mawr Lisa – gweler y fideos isod.

Instagram Lisa | Gwefan Lisa | Facebook Lisa

Fideo fi
Fideo Lisa

Diolch mawr hefyd i Ffion (@dwdl_designs) am roi fy logo ar siwmper a chrys t i fi – roedd yn rhywbeth bach roeddwn eisiau ei wneud i mi fy hun – ffordd syml o gael cyhoeddusrwydd i’r ap wrth ei wisgo o gwmpas lle gan ei fod yn bwynt siarad â phobl holi beth yw’r logo ar y top. Hefyd, er mwyn gallu creu fideos neu tynnu lluniau wrth wisgo’r dillad hefo fy logo arnynt. Rydw i’n hoffi cefnogi busnesau bach ar instagram, felly diolch mawr i Ffion am greu’r rhain – dwi wrth fy modd!

Dyna ni, blog arall wedi’i ysgrifennu – diolch am ddod i ddarllen! Cymaint o bethau cyffrous ar y gweill felly dwi’n edrych ymlaen yn barod i’ch diweddaru eto! Unrhyw gwestiwn cofiwch gysylltu unrhyw dro!

Dod â’r syniad yn fyw!

Wel, dyma ni! Blog cyntaf ar y wefan – lle ydw i am ddechrau?!

Llwyddo’n Lleol

Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o gael fy nerbyn yn rhan o gohort Ionawr 2021 o Llwyddo’n Lleol – cynllun 10 wythnos sydd yn helpu pobl ifanc o Wynedd a Môn i gynllunio a meddwl am eu dyfodol, a hynny wrth aros yn eu milltir sgwâr! O fewn y 10 wythnos rydym yn cael arweiniad a mentora drwy gefnogaeth arbenigwyr lleol, yn ogystal â £1000 i ddatblygu ein syniad i fod yn fusnes llwyddiannus. Ar ôl ymchwilio ac edrych ar fusnesau criw haf diwethaf, roeddwn yn gwybod mai Llwyddo’n Lleol oedd y ffordd orau ymlaen i mi gychwyn meddwl a datblygu’r ap, felly es amdani a gwneud cais!

Bellach, rydym hanner ffordd drwy’r sesiynau ar zoom – lle mae 7 ohonom sydd yn rhan o’r cohort yn cyfarfod gydag arbenigwyr busnes am ddwy awr i gael cymorth a rhannu syniadau. Mae’r pum wythnos diwethaf wedi hedfan, a dwi’n teimlo fel fy mod wedi cyflawni gymaint yn barod! Mae wedi gwneud i mi sylweddoli faint o bethau sydd wir angen meddwl amdanynt wrth feddwl am greu ap, a phopeth sydd yn dod ynghlwm ag o – o greu gwefannau cymdeithasol i drio cael amcanbris creu ap, o brynu ‘domain name’ fy hun i’r wefan / e-bost i drefnu rhywun i ddylunio logo i mi! Mae o i gyd yn hynod gyffrous ac rwyf yn mwynhau’r broses yn fawr iawn!

Dyma aelodau eraill cohort Ionawr 2021 Llwyddo’n Lleol, mae’n bleser cael cyd-weithio a rhannu syniadau hefo nhw pob wythnos felly cliciwch ar y linc ar eu henwau i ddarganfod mwy amdanynt :

Cadwch lygaid allan dros yr wythnosau nesaf, lle bydda i yn ysgrifennu post mwy manwl am bob unigolyn a’u menter nhw – ffordd dda i chi ddod i adnabod pob un a’i syniadau unigryw.

Dyma ni, y criw! Mae’r fideos yma yn cyflwyno ein syniadau ar dudalen facebook Llwyddo’n Lleol!

Cyfryngau Cymdeithasol

Dwi’n berson sydd wastad yn sgrolio drwy facebook neu instagram, ac wrth fy modd yn dod o hyd i fusnesau bach lleol newydd i allu eu dilyn. Dwi’n gwybod felly pa mor bwysig ydi cael cyfrif ar y gwefannau cymdeithasol er mwyn gallu hyrwyddo busnesau bach – roedd angen i mi gael rhai mewn lle cyn gynted â phosib felly! Mae’r gefnogaeth dwi wedi ei dderbyn ers creu’r cyfrifon instagram a facebook Arwyddo yn anhygoel, a gallai ddim diolch i chi gyd ddigon!

Erbyn heddiw – mae dros 700 ohonoch yn fy nilyn ar instagram – a hynny dim ond 9 diwrnod ar ôl i mi ei greu. Diolch yn fawr iawn – mae wir yn meddwl gymaint, a doeddwn i ddim yn disgwyl yr ymateb yma. Rwyf wedi derbyn negeseuon lyfli – rhai wedi fy ngwneud yn emosiynol iawn – gan bobl yn dweud faint fydd yr ap yma yn golygu iddyn nhw a pham bod angen creu un a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gwybod eich bod chi, fel finnau, yn gweld gwerth i’r ap yn anhygoel a dwi’n ddiolchgar iawn.

Gobeithio bydd y cyfrifon yn parhau i dyfu dros yr wythnosau nesaf, ac y caf barhau i’ch diddori gyda fideos, lluniau a ffeithiau gwahanol!

Yn y wasg!

Pythefnos yn ôl, (11/02/21), es i i’r ysgol i ffilmio pwt ar gyfer y Newyddion ar S4C – wel am gyffrous! Roedd hyn ychydig bach yn ‘daunting’ fodd bynnag, oherwydd mae’n golygu fy mod yn rhoi fy hun a’r syniad bach yma allan i’r byd ei weld! Cefais fy nghyfweld gan Nia Cerys y tu allan i’r ysgol, yn ateb cwestiynau megis pam fy mod yn creu’r ap yma, sut fydd yr ap yma yn helpu unigolion, lle ydw i bellach yn y broses o greu’r ap ac oes cynnydd wedi bod yn y diddordeb mewn dysgu arwyddo yn ddiweddar. Unwaith nes i gychwyn siarad, es i deimlo’n ddigon cyfforddus ac yn teimlo fel nad oedd y camera yno. Cefais gyfle i ddangos ychydig o arwyddion hefyd, cyn cael sgwrs hefo Nel a’i Mham, Iona. Aeth yr amser yn sydyn wrth ffilmio – un peth oedd yn niwsans fodd bynnag oedd y tywydd! Roedd hi’n ofnadwy o oer a gwyntog… a fina’ wedi mynd i’r drafferth o gyrlio fy ngwallt.. ha!!! Profiad ffilmio positif iawn, ac rydw i mor falch o Nel hefyd a’r ffordd y gwnaeth hi siarad.

Cafodd ei ddarlledu ar y teledu nos Fercher, 17/02/21, ac roeddwn yn falch iawn efo’r ffordd y roedd wedi troi allan. Mae’r ymateb ar ôl iddo gael ei ddarlledu wedi bod yn anhygoel – diolch i bawb am eich negeseuon caredig. Mae hyn wedi agor drysau i mi nawr gyda chyfleoedd newydd yn codi, felly mae hyn yn gyffrous iawn.

Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl a gyhoeddwyd ar BBC Cymru Fyw yn dilyn y darllediad.

Dyma bwt amdanaf i, Mirain ac Alaw yn y Cambrian News. Cawsom y cyfle i siarad am ein menter ni a beth yw ein busnesau. Roedd yn gyfle gwych i gael ein syniad allan i bobl gychwyn dod i wybod amdanom ac am y cymorth rydym yn ei dderbyn gan Llwyddo’n Lleol. Roedd hyn cyn i fi ac Alaw sefydlu ein gwefannau cymdeithasol ac felly roedd yn ffordd dda o gyflwyno ein hunain ac ein syniad i’r ardal!

Creu logo

Wel. Logo. Rhan fawr o greu busnes swni’n ddweud… yn enwedig fi sydd angen meddwl am icon i’r ap! Roeddwn yn bendant yn gwybod fy mod eisiau cael rhywun proffesiynol i ddylunio logo i fi, er mwyn ei gael yn unigryw. Dwi’n teimlo pe bawn wedi ei gynllunio fy hun, mi fuaswn wedi gwneud logo yn defnyddio lot o ‘copy a paste’ a ddim yn rhoi stamp unigryw arno. Dyna pryd roeddwn yn gwybod roeddwn eisiau gweithio gyda Heledd Owen i ddylunio logo. Mae gwaith Heledd yn lliwgar, hwyl ac unigryw ac ers misoedd bellach rydw i wedi bod yn ei dilyn ar ei gwefannau cymdeithasol ac yn mwynhau gweld ei dyluniadau newydd. Rydw i wrth fy modd hefo’i gwaith hi ac wedi prynu sawl eitem oddi ar ei siop hefyd!

Rhoddais syniad i Heledd o ba fath o beth y buaswn yn hoffi ei weld, ac mae hi wedi ticio pob bocs. Dw i wrth fy modd hefo beth mae hi wedi dod i fyny hefo – a gobeithio eich bod chi hefyd! Dyma’r logo ar gyfer fy ngwefannau cymdeithasol, mi fydd eicon yr ap yn symlach a llai prysur gan ei fod yn faint llai. Mae’r dwylo yn arwyddo’r llythyren ‘A’, ac yn ddwylo hollol unigryw gan fod Heledd wedi ei dylunio ei hun. Mae’r ‘dwdls’ bach lliwgar o’u hamgylch yn cynrychioli ei gwaith unigryw, rhywbeth rydw i wrth fy modd hefo, ac mae’r amrywiaeth o liwiau yn cynrychioli fy mhersonoliaeth hwyl, positif a lliwgar. Rydw i’n gwsmer hapus iawn, ac yn argymell Heledd i unrhyw un sydd yn chwilio am ddyluniad, neu os ydych yn chwilio am anrheg i rywun – mae ganddi gynhyrchion lyfli yn ei siop. Diolch eto Heledd – ti’n ffab!!!

Instagram Heledd // Facebook Heledd // Gwefan

Creu cystadleuaeth?!

Pob wythnos hefo Llwyddo’n Lleol, rydw i’n cael her i’w gwblhau ar y gwefannau cymdeithasol. Wythnos yma, mae gofyn i ni greu cystadleuaeth! Mae’n anodd i mi, dwi’n meddwl, i greu cystadleuaeth gan nad oes gen i gynnyrch i’w gynnig na hyd yn oed gwasanaeth eto! Ar ôl dipyn o drafod a meddwl, dwi’n meddwl fy mod wedi dod o hyd i’r cynnyrch perffaith i’w gynnig. Dwi’n lwcus iawn hefyd o gael cyfraniad oddiwrth tair merch sydd â busnesau anhygoel – na’i ddim cyhoeddi pwy na be rŵan.. ond gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar fy instagram nos Fercher yma (24/02/21) i weld beth sydd ar gael yn fy nghystadleuaeth. Dwi’n teimlo’n ffodus iawn o gael eu cyfraniad nhw, gan fy mod wrth fy modd gyda’u busnesau ac wedi eu cefnogi ers tro bellach.

Cystadleuaeth ar ei ffordd felly… am hynod gyffrous!!!!

Dyna ni am rŵan felly… mi wna’i eich diweddaru chi ymhen pythefnos! Os oes gennych unrhyw awgrymiadau o gynnwys i fy mlog, gyrrwch neges neu e-bost – mi fydd pob awgrym yn fy helpu i feddwl ymlaen. Cofiwch gadw golwg allan ar fy ngwefannau cymdeithasol i weld beth sydd yn mynd ymlaen tu ôl i’r llenni! Diolch