Teyrnged i Nain

Mae’n rhaid i mi ymddiheuro, mae ‘na 2 fis ers i mi ysgrifennu blog ddwytha’, ac mae yna gymaint wedi digwydd ers hynny. Mae pawb sydd yn fy adnabod yn gwybod fy mod yn berson pryderus iawn, sydd hefo tuedd i gorfeddwl popeth. Felly mae hynny a galaru dros golli Nain ddechrau mis Mai wedi golygu fy mod wedi ‘colli’ fy hun braidd, ac wedi stopio gwneud pethau roeddwn yn angerddol amdanynt – ysgrifennu’r blog yn un, a pharhau i bostio ar instagram yn un arall. Er dweud hynny, mae pethau cyffrous wedi digwydd yn ystod y misoedd dwytha’ hefyd, ond na’i rannu’r rheini hefo chi eto.

Dwi’n teimlo fy mod yn gallu agor allan yn dda wrth ysgrifennu yma, a chael pob dim allan o fy mhen ac i lawr ar bapur (wel… gwefan), a heddiw felly, dwi am sôn am Nain…

Nain

Nain bach annwyl, Nain bach fi, fi bia Nain a Nain bia fi. Roedd y dywediad yma wedi ei ysgrifennu ar addurn wal gan Nain, ac ar ei chwpan panad. Roedd yn ddywediad roedd Nain yn ei ailadrodd allan i fi pob tro roeddwn yn mynd i’w gweld, a hynny hefo rhyw diwn benodol. Dyna yw un o’r atgofion sydd yn chwarae yn fy mhen fwyaf ar hyn o bryd, clywed Nain yn dweud hynny. Roedd y ffordd roedd hi’n ei ddweud o mor hwyl.. a ciwt mewn ffordd, a dwi wastad yn gwenu pan dwi’n clywed hi’n ei ddweud o.

Jean odd Nain, roedd hi’n 78 oed ac yn wreiddiol o Sarn Mellteyrn ym Mhen Llyn. Priododd fy Nhaid ym mis Hydref 1965 yn gwisgo ‘white brocade ballerina-length dress and a coronet head-dress’, a waw del iawn oedd hi hefyd. (Disgrifiad yn y papurau newydd nol yn 1965 oedd hwnna haha) Aeth y ddau i drafeilio Iwerddon ar eu mis mel – ac mae gwerth clywed Taid yn sôn am yr hanesion. Lyfli hefyd yw clywed Taid yn sôn am sut roedd yn beicio i’w waith drwy’r stryd fawr ym Mhwllheli yn y boreau, ac roedd Nain yn sefyll tu allan i Polecoffs lle’r oedd yn gweithio. Roedd hi yno pob bore yr oedd yn pasio… yn aros amdano fo medda fo haha… a dyna sut ddechreuodd eu perthynas, hefo Nain yn oddeutu 18 oed.. cyn priodi pan yr oedd yn 21. Nes i wirioni yn clywed hyn i gyd. Profodd Nain lot trwy ei bywyd wedyn, ac fe gyfrannodd hynny at y math o berson yr oedd hi – person cryf a phenderfynol. Roedd Nain yn wariar, ac mae gen i gymaint o edmygedd ohoni – dwi’n gobeithio un diwrnod y byddai’r un mor gryf â hi, ac yn gwynebu heriau hefo’r un cryfder a hi.

Ers 6 mlynedd, roedd Nain wedi bod yn brwydro COPD – ‘chronic obstructive pulmonary disease’ – cymysgedd o gyflyrau ar yr ysgyfaint a oedd yn effeithio ar ei ysgyfaint. Roedd hyn yn golygu yr oedd yn gwisgo tiwbiau ocsigen drwy’r adeg i’w helpu hefo’i anadlu. Yn y dechrau, roedd hi dal yn Nain bach fi, dal yn gallu cerdded i lefydd yn tynnu rhyw beiriant bach ocsigen y tu ôl iddi, yn dal yn mynd allan am swperau, dal yn dod acw. Yn raddol aeth hynny yn anoddach iddi ac roedd mewn cadair olwyn gyda Taid yn dod a hi i lefydd. Erbyn y diwedd, doedd Nain methu gadael y tŷ.. ac yna prin yn gadael ei gwely. Dyna oedd yn anodd. Dros y flwyddyn dwytha’ hefo Covid o gwmpas, roeddwn i a phawb yn fy nheulu yn hynod bryderus am fynd i’w gweld, gan wybod fod Covid yn firws a oedd yn effeithio ysgyfaint pobl… doedd dim un ohonom eisiau risgio cario rhywbeth i Nain a hithau yn cael trafferth anadlu fel oedd hi! Roedd hyn felly yn golygu ein bod wedi gweld llai ohoni dros y flwyddyn dwytha’, ac mae meddwl yn ôl am hynny yn anodd iawn – dylwn i fod wedi gweld hi fwy yn gwybod bod ei chyflwr yn mynd yn waeth… ond roedd Covid yn ddrwg, neb yn gwybod lot amdano… doeddwn methu risgio cario rhywbeth yna, a hefyd gan fy mod yn gweithio mewn ysgol!

Mae hynny wedi chwarae ar fy mhen i lot ers ei cholli… y dylwn i wedi bod yn ei gweld hi’n amlach, ac ella dyna pam fy mod yn mynd fyny i’r fynwent mor aml, neu fod hynny yn rhyw fath o ffordd dwi’n ymdopi hefo ei cholli hi.

Disgynodd Nain ychydig wythnosau ynghynt a thorri ei asennau – dyma’r newyddion gwaetha posib.. a be oedd waethaf, gwybod ei bod ar ben ei hun yn yr ysbyty a neb yn cael mynd mewn ac allan i’w gweld. Roedd hyn wedyn yn chwarae ar fy meddwl i lot, ac yn cael effaith ar fy mywyd o ddydd i ddydd. Nes i daflu fy hun mewn i gychwyn rhedeg eto, Couch to 5K, a nes i wir mwynhau mynd a chyrraedd wythnos 5!

Nath colli Nain ddim hitio fi’n iawn am wythnosau dwi ddim meddwl… y penwythnos cyntaf ddoth a fy chwaer-yng-nghyfraith i lawr hefo fy 2 nai bach, roedd hyn yn ‘ddistraction’ da i ni gyd ar y pryd. Mewn cyfnod lle oedd pawb yn gofyn ‘ti’n ok? ti’n iawn? allai neud wbath?’ a pobl yn rhannu straeon a holi amdani, roedd 2 bachgen bach eisiau sylw a chwarae hefo bybls, eisiau canu ‘adeiladu tŷ bach’ neu chwarae hefo lego. Do, dwi wedi colli pobl agos i fi o’r blaen, ond does ddim un wedi fy nharo gymaint a wnaeth colli Nain, a sylweddolais hynny yn y cnebrwn.

Hogan fach Nain dwi wedi bod erioed – yn aml iawn roeddwn i a fy mrawd yn cael ein gwarchod yn tŷ Nain a Taid, ac maent wedi chwarae rhan fawr yn ein magu. Dwi byth am anghofio rhedeg rownd y tŷ yn heels bach maint 4 Nain, yn dwyn ei sgarff polca dot du a gwyn pob tro er mwyn gallu ei hoglau hi (dwi hefo’r sgarff yna wan), Nain yn trio fy nysgu drosodd a drosodd sut i wau (dwi dal ddim yn gallu) neu fy nysgu sut i chwarae’r piano. Trit cysgu yn nhŷ Nain oedd cael cant a mil o dost yn y bora – ond dim tost arferol… torth crust away wedi ei goginio dan gril hefo llwyyyyyth o fenyn iawn ar ei ben o. Roedd Nain yn un a oedd yn casglu bathodynnau elusen.. ‘da chi’n gwybod y rhieni sydd yn cael eu gwerthu wrth y til mewn siopau… o ia. Roedd gan Nain canoedd ohonynt, i gyd wedi’w pinio ar ddarnau o ddefnydd yn y llofft gefn, ac roeddwn wasdad yn mynd fyny yno i’w cyfri drosodd a drosodd (a coeliwch chi fi… mae ‘na LWYTH). Cofio ni’n dwy yn trio cerdded yr un pryd a’n gilydd wrth fynd rownd y farchnad, yn pigo pob darn 1 ceiniog oddi ar y llawr a phasio fo i’r llall am lwc dda ac yn trio osgoi cerdded ar graciau yn y llawr. Cofio fi’n eistedd ar step yn gegin yn bwyta beans oer tra odd Nain yn neud cinio, y ddwy ohonom yn tyfu blodau haul pob haf pan oeddwn i’n fach a chael llun o’i flaen o (cymryd fod hyn yn chwarae rhan pam mai blodau haul yw fy hoff flodyn)… a cofio ffraeo hefo Mam pob tro roedd hi’n gwneud cinio Sul gan ei fod yn blasu dim byd tebyg i un Nain. Dyma beth dwi am gofio. Dyma dwi eisiau cofio. Dwi ddim eisiau cofio hi’n cael trafferth i anadlu, na chwaith ei chofio hi yn yr ysbyty, ond cofio’r pethau da, doniol.

Nain oedd cwin y gwin pinc… y ‘Rose Queen’, y life and soul of the party. Dyna dwi’n trio ei gofio wrth symud ‘mlaen… i drio bod fel Nain… Ond mae o’n hollol afiach teimlo yn isal. Mae galar yn boenus. Dwi’n deall beth mae pobl yn ei feddwl wrth ddweud bod galar yn gallu dy hitio fel ton allan o nunlla – ac yndi mae o! Dwi’n gallu bod yn iawn un munud, ac yna dwi’n clywed rhywbeth, ogleuo rhywbeth neu gweld rhywbeth sydd yn fy atgoffa o Nain a dwi’n beichio crio mewn dim, a methu cael fy hun allan ohono. Dwi’n trio meddwl, ‘Na Lois fysa Nain ddim isho gweld chdi fel hyn’, ond wedyn dwi’n meddwl… na, mae’n iawn i beidio bod yn oce. Mae’n iawn i fod felma – dwi’n galaru! Dwi wedi colli rhywun oedd yn rhan fawr o fy mywyd ac mae’n iawn felly fy mod yn teimlo fel hyn. Dwi’n teimlo dros Taid hefyd, ac yn gweld sut mae o’n effeithio fo ac mae hynny mor anodd. Dwi wedi cychwyn mynd yn ôl i gwnsela – mae hyn wedi fy helpu sawl tro o’r blaen, a does gen i ddim cywilydd dweud! Dywedodd ffrind wrthaf o’r blaen y dylem oll gael cwnsela rhyw dro – mae o fel mynd i’r gym ond i’r ymennydd, ac mae o mor wir. Mae o’n fy helpu i roi pethau mewn persbectif, i gael barn / siarad hefo rhywun sy’n hollol wrthrychol ac i feddwl am y camau nesaf ymlaen.

Dim ond yn ddiweddar dwi wedi cychwyn coelio mewn arwyddion hefyd – fel y robin goch a’r bluen wen. Maent yn dweud os ydych yn gweld robin goch neu bluen wen o’ch cwmpas, fod rhywun rydych yn ei garu yn agos. I fod yn hollol onest, doeddwn i erioed wedi coelio hyn, tan flwyddyn dwytha’ pan y gwelais rhywun arbennig i fi yn cael pluen wen yn ymddangos mewn cyfnod hollol anodd… a dyna ddigwyddodd i fi. Ar fore hollol emosiynol, es i allan i redeg yn y gobaith y buasai yn gwneud i mi deimlo’n well. Fel yr oeddwn ar fin cychwyn, neidiodd robin goch allan o fy mlaen i, ac yna hedfan a neidio wrth fy ochr am ychydig. Dechreuais grio (roeddwn yn cael bore emosiynol fel oedd hi!!) ond roedd rhywbeth yn dweud wrthaf na hi oedd yno, hi oedd yn trio dweud wrthaf fod bob dim am fynd i fod yn iawn – nes i barhau i redeg a gwella fy amser wrth wneud hynny. Fe ddigwyddodd sefyllfa tebyg iawn yn y capel wedyn, roeddem oll yn sefyll yno fel teulu, a disgynodd pluen wen perffaith o fy mlaen. Rhedais i’w nol a’i roi yn fy mhoced – roedd hynny yn fod i feddwl rhywbeth, oedd ddim? Efallai fod o’n anodd deall weithiau, sut mae hynny’n digwydd, ond i fi, ar ddiwrnod hollol emosiynol lle roeddwn yn teimlo’n ofnadwy, i hynny ddigwydd mae’n rhaid ei fod yn meddwl rhywbeth?

Lle dwi’n trio mynd hefo hyn i gyd? Weithiau mae o’n helpu i gael o i gyd allan. Dwi yn fama yn rhannu fy mhrofiad i o alar, ond hefyd yn ysgrifennu popeth lawr oherwydd ei fod yn un ffordd dwi’n trio ymdopi hefo’r peth. Mae siarad yn fy helpu i lot, ac mae pawb sydd o fy nghwmpas yn gwybod bellach fy mod wedi dysgu’r pwysigrwydd o siarad ag agor allan. Dwi’n trio peidio dal ddim byd i mewn ddim mwy, trio peidio cadw bob dim i mewn a gobeithio bydd bob dim yn oce. Na, dwi’n siarad. Os dwi ddim yn teimlo’n grêt dwi’n dweud wrth rywun, yn agor allan i fy ffrindiau neu fy nheulu. Dwi yma ryw dro os oes rhywun eisiau siarad hefyd – mae croeso i unrhyw un ohonoch yrru neges i fi ar instagram neu facebook ac mi fyddai yna i wrando arnoch.

Cofiwch, mae’n oce i beidio bod yn oce weithiau, a peidiwch a rhoi gormod o bwysau ar eich hunain am beidio bod yn oce – dwi wedi dysgu hynny bellach. Methu chi Nain x

(ia, hwn ydi’r sgarf polca dot du a gwyn, sydd yn ogleuo fel Nain, sef perfume Elizabeth Arden Red Door… mae o mor comforting, ond weithiau mae’r ogla yn gallu fy nhaflu i)

Roeddwn i wedi bwriadu rhannu lot mwy hefo chi heddiw, ond dwi ddim eisiau gorlwytho chi hefo gwybodaeth a llwyth o waith darllen.. felly na’i adael o yna am heddiw. Tro nesaf, mi na’i rannu mwy i chi am yr ap, am Arwyddo, a sut mae popeth yn mynd. Am heddiw, na’i adael o fod yn flog am Nain, rhywun sydd wedi fy helpu gymaint dros y blynyddoedd, rhywun oedd yn ‘No.1 fan’ i fi, a rhywun sy’n haeddu cael post amdani.

Yn y blog nesaf, mi wnâi rannu’r diweddaraf hefo chi, beth sydd yn mynd ymlaen hefo’r ap a fy ngobeithion ar gyfer y dyfodol! Ond am heddiw, dyna beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen hefo fi, a dyma pwy oedd Nain bach fi. Instagram a facebook wastad yna i rywun sydd eisiau cysylltu hefo fi – wastad yma am sgwrs.